P-04-679 – Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jago Lewis ar ôl casglu 378 Llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Ar adeg pan ddywedir wrth bobl ifanc bod yn rhaid iddynt ragori mewn pynciau cwricwlwm craidd fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd amser y gellid ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar y meysydd hyn. Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster dibwrpas nad yw o unrhyw ddiben gwirioneddol i ddyfodol myfyriwr. Gallai'r cymhwyster Bagloriaeth Cymru gael ei ddileu'n hawdd neu ei ddisodli gan gwrs dinasyddiaeth. Gallai dileu Bagloriaeth Cymru hefyd helpu i wella graddau gan y byddai'n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar gyrsiau TGAU a Safon Uwch gwirioneddol, a byddai'n tynnu'r pwysau ychwanegol oddi ar fyfyrwyr.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Islwyn
· Dwyrain De Cymru